Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus

Ni all tirfeddiannwr, meddiannydd neu ddatblygwr symud na chau llwybr yn ôl eu mympwy.

Dim ond trwy ddulliau statudol y gellir newid Hawliau Tramwy Cyhoeddus a ddangosir eisoes ar y Map Diffiniol a'r Datganiad.

Yn yr un modd, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi bod rhaid defnyddio prosesau statudol os yw tirfeddianwyr, meddianwyr neu ddatblygwyr yn dymuno creu llwybrau newydd. 

Mae'r gwahanol fathau o brosesau statudol yn cynnwys:

  • Dargyfeirio llwybrau drwy Orchymyn Llwybr Cyhoeddus o dan Ddeddf Priffyrdd 1980
  • Dileu llwybrau drwy Orchymyn Llwybr Cyhoeddus o dan Ddeddf Priffyrdd 1980
  • Creu llwybrau drwy Gytundeb neu Orchymyn o dan Ddeddf Priffyrdd 1980
  • Dargyfeirio, creu neu ddileu llwybrau drwy Orchymyn Llwybr Cyhoeddus o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Gwneud cais am Orchymyn Llwybr Cyhoeddus

Os yw aelod o'r cyhoedd, sefydliad neu'r cyngor eisiau ychwanegu llwybr at y Map Diffiniol a'r Datganiad oherwydd eu bod yn credu bod hawliau cyhoeddus wedi bod yn bodoli, mae proses ar wahân ar gyfer ymdrin â cheisiadau o'r fath.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y broses honno ar y tudalennau Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.

Gorchmynion Rheoli Traffig Dros Dro

Gellir cau neu ddargyfeirio Hawliau Tramwy Cyhoeddus dros dro i ganiatáu i waith gael ei wneud yn ddiogel ar lwybr neu ger llwybr neu ar ôl difrod i'r wyneb drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro (GRhTDD).

Gall y gorchmynion hyn bara rhwng un diwrnod a chwe mis.

Os nad yw'r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn chwe mis, gellir gwneud cais am estyniad i'r GRhTDD. Fodd bynnag, bydd angen cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

Gwneud Cais am Gau Llwybr Dros Dro

I wneud cais i'r cyngor am gau llwybr dros dro, cysylltwch â'r Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Rhaid gwneud ceisiadau o leiaf 6 wythnos cyn dyddiad cychwyn y cau dros dro.

Dychwelwch ffurflenni wedi’u llenwi i:

Chwilio A i Y

Back to top