Rolau a Chyfrifoldebau
Gwybodaeth am y rolau a'r cyfrifoldebau ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Cynnal a Chadw Llwybrau
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus, gan eu bod yn briffyrdd cyhoeddus, yn cael eu cynnal ar draul gyhoeddus yn gyffredinol (ond nid yn unig), h.y. gan yr Awdurdod Priffyrdd (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr).
Mae'r ddyletswydd hon ar yr Awdurdod Priffyrdd yn ymwneud â chynnal wyneb y llwybr i safon sy'n addas er mwyn i draffig cyffredin basio yn yr ardal, e.e. cerddwyr ar lwybrau cyhoeddus a cheffylau ar lwybrau ceffylau cyhoeddus ac mae'n cynnwys rheoli llystyfiant wyneb (heb gynnwys cnydau wedi'u trin sy'n cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth ar wahân).
Mae'r Awdurdod Priffyrdd hefyd yn gyfrifol am yr arwyddion ar y llwybrau o ble maen nhw'n gadael y priffyrdd metel a marcio'r llwybrau fel y bo'n briodol.
Er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau cynnal a chadw, mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned o dan y Cynllun Cytundeb Asiantaeth.
Fel partneriaid, mae'r Cynghorau lleol yn derbyn swm penodol bob blwyddyn i gyflawni’r cyfrifoldeb am dorri eu llwybrau lleol, er enghraifft drwy dalu contractwr lleol i wneud y gwaith.
Y tirfeddiannwr neu'r meddiannydd sy’n gyfrifol am reoli llystyfiant ochr ac uwchben er mwyn sicrhau nad yw'n atal y defnydd o hawliau tramwy cyhoeddus. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan dirfeddianwyr ddyletswydd hefyd o dan Gyfraith Priffyrdd i gadw camfeydd a gatiau ar lwybr troed neu lwybr ceffylau mewn cyflwr da.
Lle bo hynny'n briodol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu citiau gatiau fel cyfraniad at gost atgyweirio.