Map a Datganiad Diffiniol
Y Map a'r Datganiad Diffiniol yw'r cofnod cyfreithiol o lwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau, cilffyrdd a chilffyrdd cyfyngedig.
Mae'r map yn dangos llinell y llwybr ac mae'r datganiad yn rhoi disgrifiad geiriol byr o bob llwybr.
Cynhyrchwyd y Map a'r Datganiad yn wreiddiol gan ddefnyddio'r gweithdrefnau a amlinellir yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, ac mae'r Map a'r Datganiad wedi'u hadolygu a'u cyhoeddi ddwywaith yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae'r map diffiniol a'r datganiad yn cyflwyno tystiolaeth bod llwybr yn bodoli ac y gellir ei ddefnyddio mewn Llys Barn.
Fodd bynnag, nid yw'r ffaith nad yw llwybr yn cael ei ddangos ar y map a'r datganiad o reidrwydd yn golygu nad yw 'hawliau' wedi cronni ac efallai y bydd yn bosibl y gellir ychwanegu llwybrau o'r fath trwy Orchymyn Addasu.
Y Map Rhwydwaith
Mae'r Map Rhwydwaith yn dangos lleoliad cyfredol a statws cyfreithiol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Sylwch nad dyma'r Map Diffiniol. Y Map Diffiniol (dogfen bapur) yw’r cofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Dyma gopi gweithiol o’r Map Diffiniol.
Mae'n dangos aliniadau cyfredol yr hawliau tramwy cyhoeddus fel y maent ar lawr gwlad. Drwy weld y map hwn rydych yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y defnydd o'r wybodaeth hon. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw hawliad, colled, difrod neu anghyfleustra a achosir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ganlyniad i ddibyniaeth ar wybodaeth o'r fath.
I gynnal chwiliad cyfreithiol o gofnodion hawliau tramwy, neu holi statws neu aliniad llwybr, cysylltwch â:
Mewngofnodi i roi gwybod am broblem
I roi gwybod am fater ar Hawl Dramwy Gyhoeddus, mewngofnodwch.