Prydau ysgol uwchradd

Ar lefel uwchradd bydd disgyblion yn prynu bwyd mewn caffeterias. Adwaenir y caffeterias fel ‘Trackers’ ac maent yn cynnig gwerth gwych am arian. 

Mae tair ardal bwyd neu ‘draciau’ i ddewis ohonynt:

  • Barrau Salad - Bwydydd ffres, iach fel salad, pasta, brechdanau, ffyn bara poeth neu oer, wrapiau tortila, tatws drwy’u crwyn, ffrwythau ffres ac iogwrt sy'n cael eu paratoi'n ddyddiol
  • Prydau Ysgafn - Bwyd sydyn, maethlon fel ffyn bara, poeth neu oer wedi'u llenwi, paninis, rholiau pitsa, bagelau, tatws drwy'u crwyn, ffrwythau ffres ac iogwrt.
  • Prif Brydau - Mae'r fwydlen yn newid bob tair wythnos, ac mae'n cynnwys dewis llysieuol. Mae yna ddyddiau rhost traddodiadol efo pwdinau Swydd Efrog mewn grefi blasus, yn ogystal â phrydau rhyngwladol megis tikka cyw iâr. Caiff y prif gwrs ei weini gyda phasta, reis neu ddewis o datws a llysiau yn eu tymor. Dim ond ar ddyddiau Gwener mae sglodion ar gael.

Byrbrydau ar gael:

  • Barrau Deffro yn y Bore - Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd 'far deffro yn y bore'. Mae'r rhain yn gweini bwyd megis tost, rholiau poeth wedi'u llenwi a phowlenni o rawnfwyd cyn i'r gwersi ddechrau.
  • Egwyl canol bore - Bwydydd poeth neu oer a diodydd yn ystod yr amser egwyl. Mae'n gyfle gwych i gael gafael ar fyrbryd, gan y gall cinio fod mor hwyr â 1.30pm.
  • Peiriannau Gwerthu - Mae'r rhain i'w canfod ar y rhan fwyaf o'r safleoedd i'w defnyddio yn ystod ac ar ôl amser ysgol. Maent yn llawn bwydydd iach, maethlon megis potiau pasta, brechdanau a diodydd.

Gwybodaeth am Alergenau

Sylwer y gall ein bwydlenni/bwyd gynnwys alergenau.

Diweddariad Alergedd Brys

O ganlyniad i ddiweddariad diweddaraf yr Asiantaeth Safonau Bwyd dyddiedig 27.9.24, ynghylch eu dadansoddiad helaeth o'r gadwyn fwyd a'u hymchwiliadau parhaus i’r posibilrwydd bod cynhyrchion mwstard wedi’u halogi â physgnau.

Byddwn yn atal cyflenwi rhai bwydydd dros dro fel mesur rhagofalus ar ein bwydlen sydd naill ai'n cynnwys mwstard neu sy’n datgan "gall gynnwys" mwstard, hadau mwstard, powdr mwstard, neu flawd mwstard i unrhyw ddisgybl sydd wedi’i gofnodi ag alergedd cnau.

Mae'n parhau i fod yn bwysig iawn bod unrhyw un sydd ag alergedd pysgnau yn osgoi bwyta cynhyrchion sy'n cynnwys cynhwysyn mwstard.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn diweddaru adalwadau cynnyrch cyhoeddedig ar eu gwefan.

Hyd yn hyn ni fu unrhyw adalw cynnyrch ar gynhyrchion prydau ysgol a ddefnyddir ar ein bwydlen.

Arlwyo heb arian parod

Mae gan bob ysgol uwchradd arlwyo heb arian parod.

Mae Arlwyo heb arian parod yn rhoi dull amgen i rieni a gofalwr i dalu am brydau ysgol. Mae'n golygu nad oes rhaid i ddisgyblion fynd ag arian parod i’r ysgol. 

Sylwer: Er bod gan Ysgol Gyfun Maesteg ac Ysgol Gyfun Porthcawl raglen Arlwyo heb Arian Parod, nid ydynt yn cael eu rhedeg drwy ein system.

Cyfraith Natasha 2021

O 1 Hydref 2021 daeth deddfwriaeth newydd a elwir yn Gyfraith Natasha i rym.  Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd a fyddai'n darparu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ar gyfer ei werthu’n uniongyrchol (PPDS) gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, prifysgolion a meithrinfeydd sy'n darparu bwyd.

Ar gyfer bwyd a ddarperir mewn lleoliad ysgol, golygai hyn newidiadau i labelu brechdanau a bagéts yn unig, gan fod y rhain yn cael eu gwneud a'u pecynnu ymlaen llaw ar y safle cyn i'r cwsmer eu harchebu.  Rhaid pwysleisio cynhwysion alergenaidd ar y rhestr labelu.

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd na chaiff ei roi mewn deunydd pecynnu.  Nid yw bwyd a roddir mewn deunydd pecynnu neu ei roi ar blât ar gais y pobl fydd yn ei fwyta yn PPDS.

Grant Hanfodion Ysgol 

Os ydych chi'n riant neu'n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol ar eu cyfer.

Ymunwch â'n tîm!

Mae hi’n amser cyffrous i ddod yn aelod o’n gwasanaethau arlwyo, wrth i ni barhau i gyflwyno’r fenter Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim i 51 ysgol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top