Gofynion dietegol a ragnodir yn feddygol
Oes gan eich plentyn alergedd/anoddefiad bwyd neu gyflwr meddygol, sy’n golygu bod angen Diet a Ragnodir yn Feddygol? Os oes, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo gyfleuster ar-lein lle gellir gofyn am ddiet a ragnodir yn feddygol.
I ofyn am ddiet arbennig, cwblhewch y ffurflen gais:
Sicrhewch fod gennych gopi o lythyr meddygol diweddar yn cadarnhau'r diagnosis a'r diet gofynnol, gan y bydd angen uwchlwytho hwn yn ystod y cais.
Gofynnir am gadarnhad meddygol er mwyn diogelu iechyd eich plentyn a sicrhau bod angen meddygol i gyfyngu ar y diet. Gallai darparu diet cyfyngedig iawn heb angen meddygol fod yn niweidiol i'r plentyn heb gymorth gweithiwr iechyd proffesiynol. Ni allwn brosesu eich cais tan i ni dderbyn y cadarnhad hwn.
Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen, byddwch naill ai'n derbyn bwydlen diet arbennig i'w chymeradwyo drwy e-bost neu byddwn yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fanylach cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at 3 wythnos i'ch bwydlen gyrraedd.
Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, rhowch becyn cinio i'ch plentyn ddod ag ef i’r ysgol nes i chi dderbyn cadarnhad o ddyddiad cychwyn y diet arbennig.
Sylwer: Hyd yn oed gyda mesurau rheoli croeshalogi rhagweithiol, mae’r prosesau trin niferus yn y gadwyn gyflenwi yn golygu bod posibilrwydd y gall cynhwysion adael eu hôl ar fwydydd. Ni allwn reoli'r bwyd y daw cwsmeriaid eraill ag ef i'r amgylchedd bwyta.