Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Enillydd gwobr James Morgan o Copperhouse Films Ltd a Julia Kalmuk ar ôl llofnodi ei phrydles ar uned Neuadd y Farchnad.

Dros gant o swyddi lleol wedi'u creu gyda chefnogaeth gan y Gronfa Cychwyn Busnes

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2026

Mae busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi creu mwy na chant o swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chefnogaeth Cronfa Cychwyn Busnes y cyngor.

Delwedd o gwrs golff Royal Porthcawl

Porthcawl i gynnal twrnamaint golff mawreddog am y pedwerydd tro

Dydd Gwener 17 Ebrill 2026

Bydd pencampwriaeth Agored Hŷn ISPS HANDA yn dychwelyd am y pedwerydd tro i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl ym mis Gorffennaf 2027, gan gryfhau enw da y fwrdeistref sirol ymhellach fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer twristiaeth a digwyddiadau mawr.

Disgyblion lleol yn cyrraedd y brig wrth gael eu henwi’n bencampwyr STEM Fformiwla 1 Rhyngwladol

Dydd Iau 16 Ebrill 2026

Mae tîm o ddisgyblion Blwyddyn Chwech o Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg wedi cael eu henwi'n Bencampwyr Cenedlaethol Cynradd STEM y DU ar gyfer 2026 ar ôl ennill yn y rowndiau terfynol yn erbyn 70 o ysgolion eraill yn ogystal â thimau rhyngwladol o Hong Kong, yr Almaen a Singapore.

Cadarnhawyd y dyddiad ar gyfer dechrau mynediad estynedig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mawrth 07 Ebrill 2026

Bydd oriau llwytho a dadlwytho estynedig i fusnesau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyflwyno, ynghyd â mannau parcio newydd i ddeiliaid Bathodynnau Glas o ddydd Iau 9 Ebrill 2026.

Llun o fws

Y Cyngor i fuddsoddi £93,000 mewn gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi gwerth £93,000 o gyllid trafnidiaeth ranbarthol mewn cyfres o welliannau ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol a fydd yn cynnig manteision newydd i deithwyr yn ogystal â chefnogi mwy o deithio cynaliadwy.

Mae Canolfan Siopa Y Rhiw wedi chwarae rhan bwysig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ers dros 50 mlynedd.

Y Cyngor yn prynu Canolfan Siopa Y Rhiw mewn cytundeb sy'n addo ysgogi newid yn nyfodol canol tref Pen-y-bont ar Ogwr'

Dydd Llun 23 Mawrth 2026

Disgwylir i dref farchnad hanesyddol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei thrawsnewid yn dilyn cytundeb rhwng perchnogion preifat Canolfan Siopa Y Rhiw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Pen-y-bont ar Waith

Dydd Gwener 20 Mawrth 2026

Bydd Pen-y-bont ar Waith yn darparu gwasanaeth gweladwy, ymatebol a rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar wella glendid, ymddangosiad a chyflwr dyddiol cymdogaethau, canol trefi a mannau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol.

Yr Aelodau Cabinet Gary Haines ac Eugene Caparros yn ymweld â phont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu, a fydd yn derbyn dec newydd sbon fel rhan o fenter gwerth £5 miliwn.

Cymorth gwerth £3.5 miliwn i atgyweirio pont Melin Ifan Ddu

Dydd Gwener 20 Mawrth 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo yn eu cais am gyllid trafnidiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru, gwerth dros £3.5 miliwn, i helpu i dalu’r gost o ddisodli pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu.

Llwybr Cymunedol Cwm Garw

Y Cyngor yn camu i mewn i archwilio opsiynau hirdymor ar gyfer Llwybr Cymunedol Cwm Garw

Dydd Iau 19 Mawrth 2026

Mae opsiynau hirdymor yn cael eu harchwilio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau dyfodol Llwybr Cymunedol Cwm Garw ar ôl iddo gael ei gau'n rhannol gan Network Rail yn 2024.

Mynychwyr a chyflogwyr yn Ffair Swyddi Maesteg yn Neuadd y Dref Maesteg ddydd Mercher 25 Chwefror.

Ffair Swyddi Maesteg yn dychwelyd am flwyddyn lwyddiannus arall

Dydd Llun 16 Mawrth 2026

Dychwelodd Ffair Swyddi Maesteg i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mis diwethaf ar gyfer digwyddiad llwyddiannus arall, a drefnwyd gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top