Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Nodi Wythnos Gofalwyr ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Llun 08 Mehefin 2026
Heddiw, rydym yn nodi dechrau Wythnos Gofalwyr 2026, sy'n gyfle i gydnabod a dathlu cyfraniad anhygoel gofalwyr di-dâl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
gwireddu breuddwydion: y genhedlaeth nesaf o sêr y byd chwaraeon yn cael eu dathlu yng Ngwobrau Sefydliad Chwaraeon Halo
Dydd Llun 08 Mehefin 2026
Cymerodd dyfodol chwaraeon lleol ran flaenllaw yn ddiweddar wrth i athletwyr gorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymgynnull ar gyfer lansiad Sefydliad Chwaraeon Halo sydd newydd ei adnewyddu, a gyflwynwyd mewn partneriaeth rhwng Halo Leisure a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher 3 Mehefin 2026.
Nifer y plant mewn gofal yn gostwng wrth i'r Cyngor wneud gwelliannau i'r gwasanaeth
Dydd Iau 04 Mehefin 2026
Mae Pwyllgor Rhianta Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi clywed sut mae nifer y plant mewn gofal yn gostwng oherwydd mwy o fuddsoddiad yn y gweithlu, llwythi achosion llai, ymyrraeth gynharach a chymorth i deuluoedd a mwy o bwyslais ar wella sefydlogrwydd amgylcheddau gofal.
Adnewyddu ardal chwarae Parc Lles Maesteg wedi'i gwblhau'n swyddogol gyda chyfarpar chwarae newydd a chynhwysol
Dydd Iau 28 Mai 2026
Mae'r gwaith o adnewyddu'r ardal chwarae ym Mharc Lles Maesteg bellach wedi'i gwblhau'n swyddogol fel rhan o fuddsoddiad parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn ardaloedd chwarae cymunedol ar draws y fwrdeistref sirol.
Gwaith i ddechrau ar adnewyddu tŵr cloc Gorsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mercher 27 Mai 2026
Disgwylir i'r gwaith i adnewyddu'r tŵr cloc yng Ngorsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau yn fuan ar ôl sicrhau cyllid drwy raglen Ardal Gyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyllid Balchder Bro i gael effaith gadarnhaol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mercher 27 Mai 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi derbynwyr llwyddiannus cyntaf grantiau bach y Gronfa Effaith Balchder Bro (CEBB).
Cyngor tywydd poeth wedi'i gyhoeddi gyda disgwyl i'r tymheredd godi
Dydd Gwener 22 Mai 2026
Gyda rhagolygon y bydd ton wres yn taro Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros benwythnos gŵyl banc y gwanwyn, mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i gofio ychydig o reolau syml a fydd yn eu helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach.
Hwb i dennis cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn cytundeb newydd gyda Tennis Cymru
Dydd Gwener 22 Mai 2026
Disgwylir i dennis cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael hwb gan gytundeb gweithredwr hirdymor newydd gyda Tennis Cymru i ddarparu hyfforddiant, gweithgareddau a gwaith cynnal a chadw cyrtiau ar draws sawl safle lleol.
Estyn yn canmol gwasanaethau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymrwymiad i blant a phobl ifanc
Dydd Iau 21 Mai 2026
Mae gwasanaethau addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu canmol gan Estyn am ddarparu canlyniadau cryf i blant a phobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol.
Gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn rhannu eiliadau 'arwyddocaol' yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth
Dydd Mawrth 19 Mai 2026
Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, siarad am eu diwrnod, gofyn am wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth, maen nhw’n symbol o un peth – datblygiad.