Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
'Haf o Hwyl' yn cynnig gweithgareddau am ddim i blant ledled y fwrdeistref sirol
Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026
Gall plant ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr edrych ymlaen at haf llawn cyffro wrth i'r rhaglen boblogaidd Heini am Oes ddychwelyd gydag ystod eang o chwaraeon, gemau, celfyddydau a gweithgareddau creadigol am ddim.
Diwrnod lles yr haf am ddim yn dathlu sicrhau cyllid i Aberfields
Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026
Mae diwrnod lles yr haf am ddim gyda gweithgareddau yn cael ei gynnal ddiwedd y mis hwn i ddathlu cyllid sylweddol i'r Aberfields yn Nant-y-moel.
Mannau gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cydnabod â gwobrau cenedlaethol mawr eu bri
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2026
Mae saith man gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn Gwobrau Baner Werdd mawr eu bri Cadwch Gymru'n Daclus, gydag Amlosgfa Llangrallo yn dathlu gwobr flynyddol olynol rhif 17 a Pharc Gwledig Bryngarw yn dod yn un o ddim ond 14 safle ledled Cymru i ennill Achrediad Treftadaeth Safle Werdd.
Mae'r Cyngor yn gweithredu yn erbyn twyll gyda Gostyngiad y Dreth Gyngor i ddiogelu arian cyhoeddus
Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i erlyn preswylydd Pen-y-bont ar Ogwr am droseddau sy'n ymwneud â thwyll gyda Gostyngiad y Dreth Gyngor, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddiogelu arian cyhoeddus a sicrhau bod cymorth ariannol ar gael i'r rhai sy'n gymwys.
Ysgol Gynradd Coety yn cael ei chanmol gan Estyn fel cymuned groesawgar a meithringar lle mae disgyblion yn ffynnu
Dydd Mawrth 07 Gorffennaf 2026
Mae Ysgol Gynradd Coety yn dathlu canlyniad hynod gadarnhaol yn dilyn ei harolwg Estyn diweddar, gydag arolygwyr yn canmol yr ysgol fel cymuned groesawgar a meithringar lle mae disgyblion yn ffynnu, yn gwneud cynnydd da ac yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn barod i ddysgu.
Treialwch eich busnes am ddim mewn siop dros dro leol
Dydd Llun 06 Gorffennaf 2026
Yn dilyn llwyddiant y farchnad dros dro yng nghanol tref Maesteg y llynedd, mae tîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor wedi lansio menter debyg yng Nghaerau, o'r enw "Gan Gaerau. I Gaerau".
Gwahodd y gymuned i ddigwyddiad ymgysylltu ynglŷn â safle newydd i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Dydd Iau 02 Gorffennaf 2026
Gwahoddir rhieni, gofalwyr ac aelodau o'r gymuned leol i ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd i gael gwybod mwy am gynigion ar gyfer safle Ysgol Gymraeg Bro Ogwr fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Llwybr Diwylliant a Threftadaeth Maesteg yn agor yn swyddogol
Dydd Iau 25 Mehefin 2026
Mae llwybr treftadaeth newydd sbon yn nhref Maesteg wedi agor yn swyddogol, gan dreiddio i hanes cyfoethog a diddorol canol y dref.
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu i ddechrau'n gynharach oherwydd y gwres eithafol
Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026
Gofynnir i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr roi eu gwastraff a'u hailgylchu allan yn gynt nag arfer ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon (24 a 25 Mehefin) er mwyn helpu i ddiogelu criwiau gwastraff ac ailgylchu rhag y gwres eithafol ac i leihau'r siawns o fethu â chwblhau casgliadau.
Gwaith glanhau yn prysur agosáu at gael ei gwblhau ar ôl gwersyll carafanau anawdurdodedig yng Nghaeau Chwarae Llidiard
Dydd Llun 22 Mehefin 2026
Mae gwaith glanhau ac adfer helaeth yng Nghaeau Chwarae Llidiard bellach yn agosáu at ei gwblhau ar ôl i wersyll carafanau anawdurdodedig adael.