Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Y Cynghorydd Eugene Caparros, Arianwen Owen, Archie James, Bethan Maund, Elsie Jones a'r Cynghorydd Gary Haines gyda'r cerbyd ail safle wedi'i ddylunio gan Bethan Maund.

Dyluniadau ailgylchu gan fyfyrwyr ar ffyrdd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Iau 12 Tachwedd 2026

Mae dyluniadau creadigol gan ddisgyblion ysgol uwchradd yn helpu i ledaenu'r neges ailgylchu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl i waith celf buddugol gael ei ddewis i ymddangos ar fflyd newydd y cyngor o gerbydau ailgylchu a gwastraff.

Wythnos Diogelu Genedlaethol

Mae'r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn amlygu niwed cudd yn ein cymunedau

Dydd Gwener 06 Tachwedd 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r Wythnos Diogelu Genedlaethol (9–13 Tachwedd 2026), gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amddiffyn plant ac oedolion rhag cam-drin, esgeuluso a chamfanteisio.

Grantiau gwerth hyd at £10,000 ar gael i gefnogi digwyddiadau canol tref

Dydd Gwener 06 Tachwedd 2026

Gallai trefnwyr digwyddiadau dderbyn grantiau hyd at £10,000 i helpu i ddod â digwyddiadau newydd cyffrous i ganol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Pencoed a Phorthcawl.

Amser i Siarad: Cyllideb 2027

Dydd Mawrth 03 Tachwedd 2026

Fel blynyddoedd blaenorol, mae angen i ni wneud arbedion sylweddol, cyfwerth â bron i £5m miliwn. Mae angen i ni gyflawni hyn drwy leihau ein gwariant a/neu gynyddu ein hincwm, er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys yn Chwefror 2027.

Busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’i enwi ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru

Dydd Llun 02 Tachwedd 2026

Mae busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael ei gefnogi gan y cyngor wedi cael ei enwi fel un o'r busnesau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru ym Mynegai Twf Cyflym y DU 2026, ac wedi ennill y Wobr Twf Cynaliadwy bwysig.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Jane Gebbie a Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo Leisure

Dull Pen-y-bont ar Ogwr o gysylltu diwylliant, hamdden a gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod fel 'ymarfer gwerth ei rannu'

Dydd Gwener 30 Hydref 2026

Mae dull Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o gysylltu diwylliant, hamdden a lles cymunedol â gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru fel 'ymarfer gwerth ei rannu'.

Gwaith ar bont Melin Ifan Ddu i ddechrau ym mis Ionawr 2027

Dydd Iau 29 Hydref 2026

Disgwylir i waith hanfodol i ddisodli pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu ddechrau ym mis Ionawr 2027 wedi i arolygiadau nodi problemau gyda strwythur y bont.

Apêl Siôn Corn 2026

Helpwch i wneud y Nadolig yn arbennig i blant lleol trwy gefnogi Apêl Siôn Corn

Dydd Mercher 28 Hydref 2026

Mae preswylwyr a busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ledaenu rhywfaint o hwyl yr ŵyl trwy gefnogi Apêl Siôn Corn eleni.

Padel, golff gwallgof, bwyd stryd a mwy wedi'i gynllunio ar gyfer glan y môr Porthcawl

Dydd Gwener 23 Hydref 2026

Gallai cyrtiau padel, golff gwallgof, gwersi syrffio a bwyd stryd i gyd fod ar lan y môr ym Mhorthcawl mor gynnar â'r haf nesaf wrth i fusnesau lleol gael gwahoddiad i gofrestru eu diddordeb mewn rhedeg safleoedd dros dro a hamdden dros dro yn Nhraeth Coney.

Cyfarfod cyhoeddus i dynnu sylw at gam nesaf gwaith pont Melin Ifan Ddu

Dydd Gwener 23 Hydref 2026

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu i roi gwybod i breswylwyr Cwm Ogwr am y ffordd y bydd y gwaith o ailosod pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu yn cael ei wneud.

Chwilio A i Y

Back to top