Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bwyd a Hwyl, Pencoed

Y rhaglen Bwyd a Hwyl yn cynnig haf iach ac actif i blant ysgol gynradd

Dydd Gwener 21 Awst 2026

Mwynhaodd mwy na 300 o blant o ddeg ysgol gynradd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr brydau maethlon, gweithgareddau cyffrous a chyfleoedd dysgu gwerthfawr drwy gydol gwyliau'r haf fel rhan o'r rhaglen Bwyd a Hwyl lwyddiannus eleni.

Cyfle i ddweud eich dweud ar Deithio Llesol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 14 Awst 2026

Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i fynychu sesiynau ymgysylltu sydd i ddod i weld y Map Rhwydwaith Teithio Llesol presennol a rhannu adborth a fydd yn helpu i lunio dyfodol cerdded, olwyno a beicio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyngor ynghylch y tywydd poeth i glybiau chwaraeon lleol

Dydd Iau 13 Awst 2026

Wrth i gyfnod arall o wres mawr daro'r DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog clybiau chwaraeon lleol i gymryd gofal ychwanegol ac i gynllunio ymlaen llaw yn ystod y tywydd poeth.

Dathlu effaith gadarnhaol y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion yn dilyn arolygiad diweddar

Dathlu effaith gadarnhaol y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion yn dilyn arolygiad diweddar

Dydd Iau 30 Gorffennaf 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ymroddiad a phroffesiynoldeb ei weithlu gofal cymdeithasol i oedolion ar ôl i bob un o'i bedwar cartref gofal preswyl dderbyn canlyniadau arolygu cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Neuadd Tref Maesteg

Gwaith adnewyddu Neuadd Tref Maesteg yn cyrraedd rhestr fer Gwobr RICS Cymru

Dydd Iau 23 Gorffennaf 2026

Mae trawsnewidiad rhyfeddol Neuadd Tref Maesteg wedi cael ei gydnabod ar y llwyfan cenedlaethol ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn y Categori Cymunedol yng Ngwobrau RICS UK Rhanbarth Cymru 2026.

Gwahodd y cyhoedd i wneud sylwadau ar gynigion ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd

Dydd Llun 20 Gorffennaf 2026

Mae pobl yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer yr Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd arfaethedig wrth i'r ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio gychwyn.

Diweddariad ar adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, yr Amgylchedd a Thai am ei ymdrechion i adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Cabinet i ystyried newidiadau i’r gwasanaeth byw â chymorth

Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026

Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd ar ddydd Mawrth 21 Gorffennaf i drafod cynlluniau ar gyfer newid sut mae'n darparu gwasanaethau byw â chymorth i bobl ag anableddau corfforol neu ddysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth.

Haf o Hwyl

'Haf o Hwyl' yn cynnig gweithgareddau am ddim i blant ledled y fwrdeistref sirol

Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026

Gall plant ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr edrych ymlaen at haf llawn cyffro wrth i'r rhaglen boblogaidd Heini am Oes ddychwelyd gydag ystod eang o chwaraeon, gemau, celfyddydau a gweithgareddau creadigol am ddim.

Diwrnod lles yr haf am ddim yn dathlu sicrhau cyllid i Aberfields

Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026

Mae diwrnod lles yr haf am ddim gyda gweithgareddau yn cael ei gynnal ddiwedd y mis hwn i ddathlu cyllid sylweddol i'r Aberfields yn Nant-y-moel.

Chwilio A i Y

Back to top